|

English / Cymraeg


Lawrlwytho ac Argraffu'r
daflen rhad ac am dim

Gwyliau Golff yng
Nghymru a Sbaen
darllenwch fwy
|
 |
 |
|
Hoffech chi fynd ar wyliau chwarae
golff? Estynnwn groeso i chi ddod i Westy
Eryl Môr. (cliciwch
yma ar gyfer Gwyliau Golff yn Sbaen)
Gall
perchnogion y gwesty, sy’n golffwyr brwd eu hunain,
gynnig cyngor a gwybodaeth i chi ac archebu rownd yn
un neu fwy o’r 16 cwrs golff lleol, naill ai ar
frig clogwyni neu ar dir isel pa un bynnag sy’n
mynd â’ch dant. Gallwn drefnu un
pris cynwysedig am y cwbl. (anfonwch e-bost am ragor o wybodaeth)
Yn y gwesty mae gennym gyfleusterau golchi
dillad, ystafell sychu a man storio dan glo ar gyfer
eich clybiau ac fe allwn drefnu pecyn bwyd os ydych am
chwarae golff drwy’r dydd.
Gwely a Brecwast o £32, Ystafell
Wely Ddwbl a Brecwast o £45 (mae disgownt ar gael
os ydych yn archebu fel grwp)
Dyma restr o’r cyrsiau golff:
|
St.
Deiniol Golf Club , Bangor
Cwrs golff prin filltir o’r gwesty
yw hwn sy’n fonciau ac yn bantiau llawn her. Mae’n
werth mynd am gêm i weld y golygfeydd ysblennydd
o gopa Mynydd Bangor. (18 twll, Par 68, 5545 llath)
www.st-deiniol.co.uk
|
Conwy
(Caernarfornshire) Golf Club
Un o glybiau hynaf Cymru. Cynhaliwyd sawl
cystadleuaeth broffesiynol ac amatur ar y cwrs hwn. (18
twll, Par 72, 6647 llath)
www.conwygolfclub.co.uk
|
Nefyn
& District Golf Club
Cwrs golff ar frig y clogwyn ym Mhen Llyn
yw hwn gyda’r golygfeydd mwyaf dramatig yng Nghymru.
(18 twll, Par 71, 6548 llath)
www.nefyn-golf-club.com
|
Llandudno (North
Wales) Golf Club
Saif y cwrs ar Fanc Orllewinol Llandudno
yn edrych dros Fae Colwyn. Mae’n gwrs ag enw
da sy’n cynnig cryn her i’r golffiwr mwyaf
profiadol hyd yn oed. (18 twll, Par 71, 6287 llath)
www.northwalesgolfclub.co.uk
|

Gwyliau Golff yn Sbaen |
Ty 4 Ystafell Wely yn Nerja, Costa
Del Sol
(45 munud o faes awyr Malaga)
Gallwn warantu amser cychwyn gêm ar y cyrsiau
golff lleol:
Baviera
Golf SA - (15 munud i ffwrdd)
Anoreta
Golf - (20 munud i ffwrdd)
Paradores -
(45 munud i ffwrdd)
Anfonwch e-bost am ragor o wybodaeth |
|
|
|
 Gwesty Eryl Môr, 2 Ffordd Garth Uchaf,
Bangor, Gwynedd, LL57 2SR.
Ffôn: 01248 353789 E-bost:
Ffacs: 01248 354042
|